BigEdu.ru
» » » Gweithred Wleidyddol Essay Research Paper Diddorol oedd
Вернуться назад

Gweithred Wleidyddol Essay Research Paper Diddorol oedd

Gweithred Wleidyddol. Essay, Research Paper

Diddorol oedd darllen am yr holl agweddau yma mewn cyswllt a´r “Tan yn Llyn”, chwedl llyfr Dafydd Jenkins. Mae´n amlwg fod cryn wahaniaeth barn ynglyn a´r weithred- yn dibynnu yn bennaf ar agwedd boliticaidd yr awdur.

Teimlaf y dylir edrych yn gyntaf ar y blynyddoedd a´r misoedd yn arwain at y noson honno ym Medi ´36. Dywed Saunders Lewis yn ei anerchiad i gynhadledd Plaid Cymru yn Chwefror 1936, tua chwe mis cyn y llosgi “yn enw deddf foesol Duw, yn enw Cristionogaeth, yn enw Cymru, galwaf arnoch i wrthwynebu hyd at eithaf eich nerth ac ym mhob un dull a modd y sefydliad melltigaid hwn, ac onis rhwystrir, yna ei ddifetha.” (5)

Mae´n son yma am “ddifetha” yr ysgol fomio. Ceir yn ei anerchiad resymau moesol, ariannol a gwleidyddol dros wrthwynebu´r sefydliad. Hwn oedd y rhybydd, hwn oedd yr awgrym cyntaf fod Saunders Lewis yn barod i fynd a´r frwydr i´r eithaf.

Sonnir am wario £300,000 ar yr ysgol fomio, pan na allai yr un llywodraeth gael hyd i £30,000 i droi ty ym Merthyr, sydd yn ol Saunders Lewis “ y druenusaf o drefi Deheudir Cymru”(5), yn ysbyty i blant oedd yn dioddef o gryd cymalau. A´i hyn arweiniodd Saunders i losgi´r ysgol fomio.

Na, o bosib. Mae yn son yn ogystal am gynnig gan Adolf Hitler yn 1935 i wahardd “awyrblaniau” ( gair Saunders Lewis) rhag bomio tu allan i ffiniau byddinoedd. Mae yn gofyn “Paham na chroesawyd awgrym Herr Hitler .”(5)

Aeth ymlaen i ofyn pam fod llywodraeth Lloegr yn adeiladu miloedd ar filoedd o “awyrblaniau”, i ladd plant a gwragedd diamddiffyn –rhesaymau ariannol – bywyd busnes, meddai Saunders, sydd y tu ol i lywodraeth Lloegr. Edrychai safbwynt Saunders yn hynod naif i ni hediw.

Mae´n son am y Bleidlais heddwch yn ynysoedd Prydain –pryd y bu naw o bob deg a bleidleisiodd yn erbyn polisi´r llywodraeth o adeiladu awyrennau, ac yn ogystal i greu cytundeb i´r perwyl rhwng gwledydd y byd. A yw hanes wedi dangos i ni pwy oedd yn iawn efallai.

Mae Saunders yn lladd ar lywodraeth “Lloegr“ yn ei anerchiad. Mae´n amlwg bod Saunders hyd yn oed yn 1936 yn gweld Cymru´n wlad ar wahan, gwlad wedi ei gosmesu gan Loegr. Cawn gan Saunders yn 1936 mae hi´n “angenrheidiol torri pob cysylltiad a´r llywodraeth yn Lloegr.”(5) Mae´n son am Gymreictod yr ardal. Dywed bod yr ysgol fomio yn “anelu´n union ac yn ddiffael at galon ac at einioes ein hiaith an llenyddiaeth, a´n diwylliant a´n bodolaeth fel cenedl.”(5)

Dywed yn ogystal byddai dyfodiad yr ysgol fomio “yn dranc i´r iaith Gymraeg ac i´n cenedl ni.”(5)

Soniai yn ogystal am effaith dychrynllyd y bomio, ac mae llywodraeth Lloegr oedd yn bennaf gyfrifol am “barhad a chynydd y perygl.”(5)

Llawn sylweddolai fod rhyfel ar y ffordd. Fel pawb arall sylweddolai y perygl o´r Almaen, eto ceir rhyw awgrym ei fod yn fwy cefnogol o safbwynt Hitler (gwir neu beidio) nag o lywodraeth “Lloegr”.

Cyn dod i unrhyw farn pendant, dylir ystyried ymhellach ac yn ehangach. Dywedodd Dafydd Jenkins yn Cymru´n Deffro (hanes y Blaid o 1925 i 1975) mae chwilio a “dyheu am ei gyfle i gyflawni gweithred a allai danio dychymyg Cymru”(1) oedd Saunders Lewis.

‘Roedd y Western Mail (ffynhonell “Cynru´n Deffro”) o´r cyfnod wedi gohebu yn 1936 fod rhyw Mr X yn son am “giving his life to Wales” ac yn ogystal “We have talked long enough. The time has come to do something, and if our bodies are broken and lives forfeit, what will it mater if the end is achieved.”(1) Gelwir y Mr X yma gan y gohebydd yn “pseudo –martyr”. Heb amhaeaeth Saunders Lewis oedd awdur y geiriau uchod. Sylw arall a gawn gan y gohebydd yw “apparently the role of the Gandhi of Wales will be filled by Mr Saunders Lewis.”(1)

Fel ddywedodd Dafydd Jenkins(yn ei lyfr Cymru´n Deffro) ‘roedd Saunders yn dyheu i gael y cyfle i danio dychymyg Cymru. Yn yr ysgol fomio cafodd ei gyfle, fe´i cymerodd ac fe daniodd ddychymyg Cymru. Dywed Dafydd Jenkins mae “tan Penyberth a ddangosodd yn amlwg fod y Blaid ar gael.” (1)Fe daniwyd dychymyg Cymru ddigon, iddi sylweddoli fod yr awdurdodau Prydeinig yn anwybyddu Cymru yn llwyr.

Mae twf Plaid Cymru wedi ei selio ar y digwyddiad hanesyddol yma. Yn ol Cof Cenedl (Gwynfor Evans) “Bwriad gwreiddiol llywodraeth Lloegr oedd adeiladu dwy ysgol fomio un yn Abbotsbury ac un arall yn Northumberland gwrthwynebwyd y naill yn llwyddiannus gan fod maes bridio elyrch gerllaw, a gwrthodwyd yr un yn Northumberland oherwydd ei fod yn rhy agos i Lindisfarne, lle gyda cysylltiad hanesyddol a chrefyddol gyda Sant Cuthbert.”(2) Pan gyhoeddodd y llywodraeth ei bwriad o adeiladu ysgol fomio yn Llyn cododd Plaid Cymru wrthwynebiad cenedlaethol a hynny am ddau reswm. Un oedd amcan sefydliad yr Ysgol Fomio, ‘roedd y Blaid wedi bod yn wrth-filitaraidd o´r dechrau. Ail sail y gwrthwynebiad oedd bod y safle yn ran sancteiddiaf o ddaear Cymru sy´n bodoli oherwydd lleoliad Ffordd y Pererinion a arweiniau i Ynys Enlli lle gorweddai llu o saint, a bod yr ardal yma yn gaer i iaith a diwylliant y Cymru.

Pan gynhaliwyd cwrdd protest ym Mhwllheli ymddangosodd dros ddwy fil a hanner o bobl yno i wrthwynebu´r Ysgol Fomio. Yna cynhaliwyd pleidlais, o´r holl bobl nid oedd ond tua hanner cant

Внимание, отключите Adblock

Вы посетили наш сайт со включенным блокировщиком рекламы!
Ссылка для скачивания станет доступной сразу после отключения Adblock!

Скачать
Рефераты по английскому языку Gweithred Wleidyddol. Essay, Research Paper Diddorol oedd darllen am yr holl agweddau yma mewn cyswllt a´r “Tan yn Llyn”, chwedl llyfr
Оценок: 1010 (Средняя 5 из 5)

Наверняка у вас есть товары или услуги, продажа которых приносит вам максимальную прибыль. Для быстрого старта в сети вам необходимо создание посадочной страницы (одностраничного сайта), на которой будет размещена информация о маржинальных товарах/услугах интернет магазина. За 8 лет опыта разработки конверсионных страниц мы выработали оптимальную структуру, которая позволит привлекать через landing page больше продаж. На такую структуру «одевается» ваш контент — фирменный стиль, тексты, фотографии, уникальные торговые предложения, после чего страница выходит в свет. Разработка лендинга и запуск в сети — до 7 рабочих дней. Стоит отметить, что в разработку самой посадочной страницы входит и написание копирайтером продающих текстов для вашего бизнеса, чтобы каждый посетитель страницы захотел совершить покупку именно у вас. Результат: качественно разработаная продающая посадочная страница, которая готова приносить вам новых клиентов.

© 2016 - 2022 BigEdu.ru